BBC profile

Journalist Apprenticeship - Level 5 - Welsh Language

by BBC

8.2/10

Job Details

28th November 2024
Cyflog o £21,840
Higher Level Apprenticeship
Journalism, Market Research, Publishing, Project Management
Cardiff

Prentisiaeth Newyddiadurwr - Lefel 5 - Caerdydd / Journalist Apprenticeship - Level 5 - Welsh Lang

Mae prentisiaeth yn y BBC yn rhoi cyfle i chi roi hwb i’ch gyrfa mewn swydd y byddwch wrth eich bodd â hi. Ni yw arweinwyr y diwydiant mewn gyrfaoedd cynnar ac rydyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu eich sgiliau a’ch talent. Fel un o’r sefydliadau mwyaf creadigol a datblygedig o ran technoleg yn y byd dros y 100 mlynedd diwethaf, mae gyrfa yn y BBC yn golygu y cewch gyfle i ddysgu gan weithwyr proffesiynol mwyaf profiadol ac uchel eu parch yn y busnes.

Mae’r brentisiaeth Ymchwilydd Newyddiadurwr (Lefel 5) hon yn ddelfrydol ar gyfer unigolion chwilfrydig sy’n frwd dros adrodd straeon. P’un a ydych chi’n gadael yr ysgol neu’n chwilio am newid gyrfa, os nad yw prifysgol yn addas i chi, mae’r rhaglen hon yn darparu hyfforddiant newyddiaduraeth o’r radd flaenaf gyda’r darlledwr gwasanaeth cyhoeddus mwyaf y byd.

Byddwch yn ennill profiad yn y gwaith wrth weithio tuag at Ddiploma NCTJ mewn Newyddiaduraeth a chymhwyster prentisiaeth Lefel 5.

PRIF GYFRIFOLDEBAU

Beth fyddwch chi’n ei wneud ar y brentisiaeth?

Fel Prentis Ymchwilydd Newyddiadurwr, byddwch...

  • Gweithio ochr yn ochr â thimau Newyddion a Chwaraeon y BBC i ddatblygu eich sgiliau newyddiadurol, gan greu a darparu cynnwys o safon ar gyfer teledu, ar-lein, digidol a sain.
  • Byddwch yn rhan o holl weithgareddau’r ystafell newyddion, fel dod o hyd i westeion neu gyfranwyr addas a’u sicrhau, ysgrifennu briffiau ar gyfer eich tîm neu ffilmio a golygu ffilmiau.
  • Canfod a chreu straeon ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol, gan gynnwys meddwl am syniadau, cynnal ymchwil fanwl a chynorthwyo gyda chyfweliadau.
  • Dysgu gan arbenigwyr yn y maes a gweithio gyda nhw.

Beth fyddwch chi’n ei astudio?

Mae’r Brentisiaeth Ymchwilydd Newyddiadurwr yn cyfuno hyfforddiant academaidd gyda phrofiad ymarferol yn y swydd. Fel prentis, byddwch yn dilyn y safon Prentisiaeth Newyddiadurwr (cwricwlwm) ac yn gweithio tuag at y cymhwyster sy’n cael ei gydnabod gan y diwydiant, sef Diploma NCTJ mewn Newyddiaduraeth. Asesir hyn drwy arholiadau a gwaith cwrs.

Mae modiwlau a gwerthusiadau Diploma NCTJ yn debygol o gynnwys:

  • Newyddiaduraeth Hanfodol – sut i gael y stori a datblygu sgiliau ysgrifennu cryf.
  • Moeseg – deall Cod Ofcom sy'n tywys newyddiadurwyr darlledu.
  • Cyfraith Cyfryngau Hanfodol – y toolbox na all unrhyw newyddiadurwr fod hebddo, ac mae pob golygydd yn dymuno gwybod eich bod chi’n ei gael.
  • Newyddiaduraeth ar gyfer Cynulleidfa Ddigidol – deall sut mae sefydliadau cyhoeddi digidol yn gweithio a sut i ysgrifennu straeon gwych ar draws pob llwyfan digidol.
  • Materion Cyhoeddus – deall sut mae grym yn gweithio a sut y gallwch ei herio.
  • Newyddiaduraeth Darlledu - gan gynnwys Radio a Theledu.
  • E-portfolio – i gynnwys deg darn o newyddiaduraeth, a gyhoeddwyd ar unrhyw lwyfan priodol.

I ble y gallai’r rôl hon fynd â chi?

Ar ôl cwblhau eich prentisiaeth yn llwyddiannus, byddwch yn gallu gwneud cais am gyfleoedd swyddi fel Ymchwilydd Newyddiadurwr, Cydlynydd Newyddiaduraeth a rolau Newyddiadurwr y tu mewn neu’r tu allan i’r BBC.

Mae’r cynllun hwn yn dechrau ym mis Medi 2025 a byddwch ar gontract cyfnod penodol, sy’n golygu bod eich contract am gyfnod y brentisiaeth yn unig. Mae’r cynllun hwn yn para 24 mis.

AI CHI YW’R YMGEISYDD GORAU?

Mae gennym ddiddordeb yn eich angerdd i weithio yn y BBC a’ch brwdfrydedd i ddarparu cynnwys o’r radd flaenaf a rhagoriaeth weithredol i’n cynulleidfaoedd. Rydyn ni’n chwilio am bobl gadarnhaol sy’n dilyn ein gwerthoedd ac yn sicrhau bod ein diwylliant yn parhau i fod yn gynhwysol ac yn llawn cyfleoedd. Nid ydym yn canolbwyntio ar eich cymwysterau, yn hytrach rydyn ni’n chwilio am botensial, a byddwn yn rhoi cyfle i chi roi eich profiad a’ch cryfderau trosglwyddadwy ar waith mewn gwahanol ffyrdd.

Drwy gydol y broses ddethol, byddwn yn chwilio am dystiolaeth o sut rydych chi’n dangos pob un o werthoedd ac ymddygiadau’r BBC. Mae ein gwerthoedd yn sail i bopeth a wnawn. Maent yn diffinio’r hyn y gallwch chi ei ddisgwyl gan y BBC, a’r hyn y mae’r BBC yn ei ddisgwyl gennych chi.

Prentis Ymchwilydd Newyddiadurwr gwych yw rhywun sy’n amlygu’r canlynol:

  • Yn chwilfrydig iawn am bobl a’r hyn sy’n digwydd yn y byd
  • Yn llawn syniadau creadigol a ffyrdd llawn dychymyg o adrodd straeon
  • Yn frwd dros gynhyrchu cynnwys ar wahanol blatfformau, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol
  • Mae ysgrifennu yn ei gyffroi
  • Agwedd hyblyg, llawn cymhelliant ac yn barod i addasu i gyflymder y gwaith.

Peidiwch â phoeni os nad oes gennych chi brofiad helaeth. Rydyn ni’n chwilio am bobl sy’n gadael yr ysgol neu’n newid gyrfa sy’n dangos potensial yn hytrach na phrofiad neu hyfforddiant blaenorol.

Mae'r cynllun hwn wedi'i anelu at bobl heb raddio. Os oes gennych chi radd neu ddiploma NCTJ mewn Newyddiaduraeth a'ch bod yn dymuno hyfforddi fel Newyddiadurwr yn y BBC, rydyn ni’n argymell eich bod yn gwneud cais am y cynllun Newyddiadurwr lefel 7.

Mae’n rhaid i chi fodloni’r canlynol i fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth yn y BBC:

  • Bod yn 18 oed neu’n hŷn pan fydd y brentisiaeth yn dechrau ym mis Medi 2025
  • Erbyn dechrau’r brentisiaeth ym mis Medi 2025, fyddwch chi wedi byw yn y DU neu mewn Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) am o leiaf 3 blynedd.
  • Yn gymwys i weithio yn y DU yn llawn amser drwy gydol y contract prentisiaeth.
  • Ddim yn cymryd rhan mewn cynllun prentisiaeth ar hyn o bryd sy’n cael ei gefnogi gan y BBC neu sefydliad arall.

I wneud cais am y cynllun hwn, mae hefyd yn ofynnol...

  • Peidio â dal gradd mewn Newyddiaduraeth eisoes, gan y byddai hyn yn eich gwneud yn anghymwys i gael cyllid
  • Nad ydych wedi cwblhau neu’n astudio ar gyfer diploma NCTJ neu gymhwyster newyddiaduraeth ar yr un lefel neu uwch
  • Bod gennych un ai TGAU Mathemateg a Saesneg Gradd 4/C, gradd C mewn cymhwyster National 5 (yr Alban), Sgiliau Swyddogaethol Lefel 2

View More Jobs
Recruiting? See how we can help you